Dyma'r geiriad swyddogol ar gyfer ein cystadleuaeth lefaru erbyn Eisteddfod y Bala
Cystadleuaeth Lefaru 2009 Cymdeithas Eisteddfodau Cymru.
Cyflwyniad ar lafar o ddarn o waith gan Caryl Lewis neu Bethan Gwanas gan unigolyn neu grwp, na chymer fwy na chwe munud i’w gyflwyno. Bydd ennill mewn dwy eisteddfod leol – a dwy yn unig – rhwng Eisteddfod Genedlaethol 2008 a diwedd Gorffennaf 2009 yn rhoi hawl i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala 2009 am wobrau o £150.00, £100.00 a £50.00
Cofiwch bod modd i chi anfon adroddiadau, cyfansoddiadau a lluniau ymlaen i'w cyhoeddi ar y wefan yma, a gosod eich rhaglenni ar y safle fel bod modd i bawb eu gweld a'u lawrlwytho.
Mae'n bosibl hefyd i chi gael cyfeiriad ebost ar gyfer eich eisteddfod - fel y gall cystadleuwyr gysylltu'n gyflym gyda chi, a galluogi beirdd a llenorion i anfon eu cynnyrch trwy gyfrwng y dechnoleg ddiweddaraf.Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth ar sut i wneud hyn.
Yn olaf, croesawn syniadau ar gyfer eu cynnwys ar y safle - chi piau hi, gwnewch yn fawr ohoni!
Terwyn Tomos (Cadeirydd)
This email address is being protected from spam bots, you need Javascript enabled to view it
Rhoi Hwb i Lefaru
Yn dilyn trafodaeth ar lefaru yn ein Cyfarfod Blynyddol yn Eisteddfod Abertawe 2006, cynigiodd Siân Teifi ofyn i feirniaid llefaru profiadol a fyddent yn fodlon mentora rhai a hoffai ddatblygu'r grefft o feirniadau.
Bu Siân gystal â'i gair, ac isod fe welwch restr o ddeg o feirniaid sydd yn barod i gael; eu 'cysgodi' pan yn beirniadau mewn eisteddfodau lleol. Os oes diddordeb gyda chi mewn datblygu'r grefft o fod yn feirniad llefaru naill ai dewch i gysylltiad gyda:
Geraint Hughes -
This email address is being protected from spam bots, you need Javascript enabled to view it
neu
Y deg yw : SIÂN TEIFI, GARRY NICHOLAS, GERAINT HUGHES, ANNE WINSTON PASH, DYFRIG DAVIES, MADGE HUGHES, RHIAN PARRY, ALUN JONES, TUDUR DYLAN, DELYTH MAI
Diolch o galon i Siân Teifi am ei chefnogaeth.
|