Defnyddwyr






Newyddion Diweddaraf

  

gwefan Bwrdd yr Iaith

Chwefror 6ed

Rhaglen Eisteddfod Talgarreg bellach ar y wefan.

  Chwefror 3ydd, 2012

Rhaglen \Eisteddfod Swyddffynnon, sydd i'w chnnal ar ddechrau Mawrth, bellach wedi cael ei lle ar y wefan.

  

Ionawr 22ain, 2012

  

Dwy raglen newydd i'r wefan - Y F fôr a Phenrhyncoch, y naill eisteddfod a'r llall yn digwydd ym Mis Ebrill,  Mae Penrhyncoch hefyd wedi sicrhau bod modd mynd at eu rhaglen nhw drwy dudalen y Gymdeithas ar Facebook - syniad ardderchog!!  Ydych chi wedi chwilio amdanom ar Facebook hyd yma?

Mae rhaglen Eisteddfodau Pontrhydfendigaid wedi cael ei diweddaru hefyd, oherwydd bod camgymeriad bach yn nyddiad Talwrn y Beirdd yn y rhaglen wreiddiol.  Os ydych yn bwriadu cystadlu yn y talwrn, byddai'n well i chi edrych eto ar y rhaglen.   

  

Ionawr 15fed, 2012

  

Rhaglen Eisteddfod Rhydlewis (sydd i'w chynnal ar Ebrill 28ain) yw'r diweddaraf i gyrraedd y wefan.  

  

Ionawr 10fed, 2012

  

Rhaglenni dwy eisteddfod arall wedi ein cyrraedd heddiw - yn gyntaf, Eisteddfod y Groeslon sydd i'w chynnal ar Ebrill 28ain, ac yna Rhaglen Gŵyl Fawr Aberteifi, sydd yn digwydd ar ddechrau Gorffennaf.  

  

Ionawr 9fed, 2012

  

Mae rhaglen Eisteddfodau Sir David James Pontrhydfendigaid, sydd i'w cynnal ym Mis Mai, wedi cael eu gosod ar y wefan y bore yma.  

  

Ionawr 4ydd, 2012

  

  Trist ar ddechrau blwyddyn newydd yw cofnodi'r newyddion trist am farwolaeth Ken Lloyd, Y Tymbl ddechrau'r wythnos hon.  Bu Ken yn ysgrifennydd eisteddfod y Tymbl am flynyddoedd ac yn aelod brwdfrydig a gweithgar o bwyllgor Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, gan gynnwys cyfnod fel is-gadeirydd.  Gŵyr pawb oedd yn adnabod Ken ei fod yn ŵr bonheddig a gweithgar, yn gyfaill triw ac yn un a barchai'r Pethe, a chaiff ei gofio'n annwyl gan lu o o bobl ledled Cymru.  Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf gyda'i deulu yn ystod y cyfnod anodd hwn

  

Rhagfyr 22ain

  

Mae rhaglen Eisteddfod Gadeiriol Llandudoch, sydd i'w chynnal ym Mis Mai 2012 bellach ar y safle.

  

Dymuniadau gorau oddi wrth swyddogion Cymdeithas Eisteddfodau Cymru  i eisteddfodwyr ledled Cymru dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd.  

  

Rhagfyr 2il, 2011

  

Mae rhaglen Eisteddfod Gadeiriol Brynberian, sydd i'w chynnal ym Mis Chwefror, wedi'n cyrraedd ni - rhowch gip i weld beth sydd ganddyn nhw i'w gynnig.  

  

Tachwedd 30ain,2011

  

Diolch i Eisteddfod Llanllyfni (Chwefror 2011) am anfon y rhaglen ymlaen atom - mae hi ar y wefan gyda'r lleill bellach.

  

Braf oedd cael darllen cefnogaeth golygyddion 'Y Glec' i eisteddfodau lleol yn y rhifyn diweddaraf.  Mae'r ddau rifyn diwethaf wedi cynnwys trafodaeth ar gystadlu mewn eisteddfodau, peth ohono'n bryfoclyd a heriol.  Yn y bôn, beth bynnag, mae'n ceisio annog cystadleuwyr llenyddoli ddefnyddio'r eisteddfodau lleol i ddatblygu eu crefft.

  

Mae gan Gymdeithas Eisteddfodau Cymru dudalen ar 'Facebook' erbyn hyn - dyddiau cynnar yw hi arni hyd yma, ond beth am bicio draw i weld - a chyfrannu sylwadau, syniadau a thrafodaeth?  

  

Tachwedd 21ain, 2011

Diolch i Eisteddfod Penrhyncoch (Ebrill 2012) am anfon y rhestr testunau llenyddol i fewn i'r wefan.

  

Tachwedd 20fed, 2011

  

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm yn cynnig grantiau/cyfraniadau at nifer o achosion da, gan gynnwys gweithgarwch celfyddol a chymunedol ar raddfa leol.  Rydym o'r farn bod eisteddfodau lleol yn ateb y gofynion ar gyfer gwneud cais.  Os ydych yn chwilio am gefnogaeth arainnol ar hyn o bryd, fe allech roi cynnig arni - mae'r ffurflen gais yn weddol syml, ac nid oes angen cofrestru fel elusen dan y Comisiwn Elusennau, dim ond bod gennych gyfansoddiad addas.

Y cyfnod i wneud cais yw NAWR -  mae'r dyddiad cau ar gyfer y rownd gyfredol ar Ragfyr 19eg.

Am fwy o wybodaeth, a ffurflen gais, ewch i'r wefan yr ymddiriedolaeth sef  http://www.millenniumstadiumtrust.co.uk/index_w.asp

Pob lwc gyda'r ceisiadau!

  

Tachwedd 7fed, 2011

  

Dau ychwanegiad i'r safle heddiw - rhaglen Eisteddfod Trallong sydd i'w chynnal ddiwedd y mis hwn, ac adroddiad ar Eisteddfod Llandyfaelog a gynhaliwyd ddechrau'r mis - diolch am eu cyfraniadau.  

  

Hydref 28ain 

Mae rhaglen Eisteddfod llanfihangel ar Arth 2012 wedi cyrraedd y wefan, yn ogystal a chanlyniadau rhai o eisteddfodau'r hydref. 

Hydref 14eg, 2011

  

Mae rhaglenni Eisteddfod y Foel ac Eisteddfod Talwrn bellach ar y wefan - y naill eisteddfod a'r llall i'w cynnal yn ystod Mis Tachwedd.

  

Hydref   12fed, 2011

  

Mae rhestr testunau llenyddol Eisteddfod Llandudoch 2012 bellach yn barod ac wedi ei gosod ar y wefan. Mae gwobrau'r cystadlaethau hyn wedi eu cynyddu eleni felly, chi feirdd a llenorion, rhowch gip arni!

  

Hydref 10fed, 2011

  

Mae trefnwyr Eisteddfod Bethel Melinycoed wedi anfon canlyniadau'r Eisteddfod ymlaen at y wefan.  Nid ydym wedi cyhoeddi canlyniadau o'r blaen, ond dyma ddechrau nawr. Felly, os ydych am gyhoeddi adroddiad am eich heisteddfod, anfonwch nhw atom yn y ffordd arferol ac fe gân nhw eu lle.

Os cliciwch ar 'Dogfennau', fe welwch bod categori newydd 'Canlyniadau' wedi ei osod yno - cliciwch ar hwnnw i'w darllen.

  

Medi 30ain

  

Mae rhaglen Eisteddfod Abergorlech 2011 bellach ar y safle - gobeithio na fydd y tywydd yn achosi trafferthion eleni!!

  

Medi 30ain

  

Dau feirniad newydd - chwilio am brofiad

Mae dau berson ifanc, Einir Dafydd ac Owain Gwynn o  aradl Crymych yn ngogledd Sir Benfro yn awyddus i ennill profiad fel beirniaid - Einir yn y byd cerdd, ac Owain ym maes llefaru.

Os hoffech roi'r cyfle iddynt, neu roi cyfle iddynt gysgodi beirniaid mwy profiadol yn eich eisteddfod chi, yna mi allwch gysylltu â nhw drwy gysylltu gyda  : Steffan Prys , Urdd Gobaith Cymru Trefnydd Cynorthwyol Adran yr Eisteddfod a'r Celfyddydau Gwersyll yr Urdd Glan-llyn, Llanuwchllyn, Y Bala, Gwynedd, LL23 7ST Ffon:  01678 541015Symudol:  07976 003345 Ar y we: www.urdd.org   

  

  

Medi 23ain, 2011

Mae wedi dod i'm sylw bod geiriad Cystadleuaeth Deuawd y Gymdeithas ar gyfer 2012 wedi bod yn anghywir ar y wefan - hyd heddiw. Dyma'r geiriad cywir. Bydd hwn yn cael eosod fel dogfen gyda'r rhaglenni eisteddfod hefyd.

GEIRIAD  CYSTADLEUAETH

CYMDEITHAS EISTEDDFODAU CYMRU  2012  

Cystadleuaeth Deuawd 2012 Cymdeithas Eisteddfodau Cymru.

Rhwng 12-26 oed.

Hunan ddewisiad. Geiriau gwreiddiol Cymraeg neu cyfieithiad i’r Gymraeg.

Gwobrau : Yr eisteddfod leol i benderfynu.

 

Bydd ennill mewn dwy eisteddfod leol – a dwy yn unig – rhwng Eisteddfod Genedlaethol 2011 a diwedd Gorffennaf 2012 yn rhoi yr hawl i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012 am wobrau o £150, £100 a £50.

******************************** 

GWEITHDY MARCHNATA AC HYSBYSEBU 

Cynhelir gweithdy  dan nawdd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru yn Stiwdio 2, Y Galeri, Caernarfon, nos Iau, 13 Hydref 2011 am 7.30 o’r gloch i drafod dulliau o farchnata a hysbysebu eisteddfodau lleol dan arweiniad Gwion Jones o Abergele.

 Estynnir gwahoddiad i gynrychiolwyr eisteddfodau Arfon a Dwyfor sy’n aelodau o’r Gymdeithas i’r gweithdy. 

Hoffai Gwyn a Rhian Parry Williams (Cyd-ygrifenyddion Pwyllgor Gogledd Cymru o’r Gymdeithas) dderbyn gwybodaeth am nifer y cynrychiolwyr sy’n debygol o fynychu’r gweithdy erbyn 4 Hydref 2011 fan bellaf, felly cofiwch gysylltu gyda nhw.

Dyma'r cyntaf mewn cyfres o weithdai, gobeithio, sy'n deillio o gyfarfod blynyddol y Gymdeithas yn Eisteddfod Wrecsam eleni - cadwch lygad allan am rai yn eich ardal chi, neu cysylltwch gyda ni ( This email address is being protected from spam bots, you need Javascript enabled to view it ) os hoffech drefnu rhywbeth tebyg ar unrhyw faes o ddiddordeb i chi.

 

   

  

Medi 1af, 2011

Dyma fi wedi cyrraedd yn ôl o ngwyliau - diolch am fod mor amyneddgar, ac hefyd am barhau i ddanfon rhaglenni ataf dros y mis diwethaf. Rwyf wedi gosod pump o raglenni eisteddfodau'r hydref ar y safle y bore yma - Bancffosfelen, Llanarth, Treuddyn, Pobl Hŷn Môn, a Deiniolen.  Diolch am eu hanfon - mae rhaglenni 16 o eisteddfodau bellach ar y safle.

Rwyf hefyd wedi gosod y rhestr dyddiadau eisteddfodau o nawr tan Chwefror 2012 ar y safle - edrychwch dan 'Dogfennau' ac yna dewiswch 'Dyddiadau Eisteddfodau' ac fe welwch y ddogfen yno. 

Mae geiriad Cystadleuaeth Deuawd 2012 hefyd ar gael ym mhlith y rhaglenni eisteddfod - bu honno'n gystadleuaeth rhyfeddol o lwyddiannus eleni, ac edrychwn ymlaen at weld ei pharhau felly yn Eisteddfod Bro Morgannwg y flwyddyn nesaf.

Cadwch y rhaglenni i ddod! 

  

Gorffenaf 26ain, 2011

 Rhaglen Eisteddfod Bethel Melinycoed yw'r ddiweddaraf i gyrraedd y wefan, a bydd Eisteddfod Garnant yno yn ystod y diwrnod neu ddau nesaf - y ddwy eisteddfod yn digwydd yn yr Hydref.

Fydda i ddim yn medru diweddaru'r wefan rhyw lawer yn ystod Mis Awst, o ddechrau'r Eisteddfod Genedlaethol ymlaen.  Er hynny, gallwch barhau i anfon rhaglenni at This email address is being protected from spam bots, you need Javascript enabled to view it , a phan fyddaf yn ôl ar ôl y gwyliau, af ati ar unwaith i'w gos ar y wefan.

  

Gorffennaf 12fed, 2011

  

Mae rhaglenni'r hydref yn dal i gyrraedd - heddiw cyrhaeddodd rhestr testunau Eisteddfod Llandyrnog y wefan.

Gwyl Fawr Aberteifi, a gynhaliwyd ychydig dros wythnos yn ôl, sy'n dal y record am y mwyafrif o bobl i edrych ar ei rhaglen ar y wefan hyd yma - 600 o drawiadau i gyd eleni.

Mae Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn prysur agosau - cofiwch ymweld â'n stondin ni ar y maes, rhif 203, am sgwrs a phaned, a chofiwch anfon eich rhaglenni atom , fel y gallwn eu dosbarthu i ddarpar gystadleuwyr ar eich rhan. 

  

Mehefin 30ain, 2011

  

I'r beirdd a'r llenorion yn eich plith, mae rhestr testunau llenyddol Eisteddfod Llanbedr Pont Styeffan wedi cyrraedd y wefan heddiw.  

  

Mehefin 27ain, 2011

Y rhaglen ddiwedddaraf i gyrraedd y wefan yw Eisteddfod y Cymoedd, sydd i'w chynnal yn yr Hydref. Diolch am ei hebostio i mewn.

Mehefin 24ain, 2011

  

Mae rhaglen Eisteddfod Llandrindod, sydd i'w chynnal yn yr Hydref, bellach wedi cyrraedd y wefan.

  

Mae'r nifer o ymwelwyr sy'n edrych am raglenni eisteddfod yn dal i gynyddu. Am y tro cyntaf, mae dros 500 o bobl wedi agor rhaglen eisteddfod ar ein gwefan - rhaglen Gwyl Fawr Aberteifi yw honno. Mae'n amlwg bod hwn yn lle da i roi eich rhaglen - felly, cadwch nhw i ddod!

  

  

Mehefin 17eg, 2011

  

Mae trefnwyr Eisteddfod Bro Aled wedi cysylltu gyda chysylltiad gwefan sy'n rhoi gwybodaeth am yr eisteddfod, gan gynnwys y rhaglen ddiweddaraf. Gellwch gysylltu trwy fynd at dudalen 'Cysylltiadau' y wefan hon, ac yna sgrolio lawr at 'Eisteddfod Bro Aled' a chlicio ar y ddolen i agor y dudalen.

  

Mae rhaglenni Eisteddfod Felinfach  ac Eisteddfod Môn 2012 hefyd wedi cyrraedd y wefan erbyn hyn.  

  

Mehefin 8fed, 2011

  

Mae Eisteddfod Llanbrynmair yn digwydd yn ystod Gorffennaf, ac mae'r rhaglen bellach ar y wefan.  

  

Mehefin 7fed, 2011

  

Llongyfarchiadau i holl enillwyr Eisteddfod yr Urdd yn Abertawe'r wythnos diwethaf -  braf oedd gweld cystadleuwyr ein heisteddfodau lleol yn dod i'r brig.

Mae rhaglen Eisteddfod Tregaron, sydd i'w chynnal ym Mis Medi, bellach wedi cyrraedd y wefan. Ewch i edrych amdani.

  

Mai 26in, 2011

  

Mae Rhaglen Eisteddfod y Tymbl sydd i'w chynnal ym Mis Medi wedi cyrraedd y wefan - diolch.   

  

  

Mai 9fed, 2011

  

Diolch i drefnwyr Eisteddfod Pwllglas am anfon eu rhaglen atom - mae hi bellach wedi cyrraedd y wefan yn ddiogel.

  

Mae cynnydd da wedi bod yn y nifer sy'n  darlleb rhaglenni o'r wefan hon. Rhyw ddwy flynedd yn ôl, prin cyrraedd y cant o daro ar raglen a fyddai'n digwydd tra byddai ar y wefan. Bellach mae'r nifer o gwmpas y 300 yn gyson.

Mae rhai eisteddfodau yn anfon eu rhestr testunau llenyddol atom ymhell cyn i'r rhaglen gyflawn ar gyfer yr eisteddfod fod yn barod. Os oes modd teipio'r rhestr tesunau ar gyfrifiadur, yna fe allwn ei chyhoeddi yma'n ddidrafferth, a chael y testunau i'r beirdd a'r llenorion yn gynt o lawer. Pan ddaw'r rhaglen gyflawn yn barod, wedyn mi allwn osod honno i fyny ar y wefan hefyd. 

  

Mai 5ed, 2011

  

Ymddiheuriadau mawr am fod mor dawel yn ystod yr wythnosau diwethaf hyn - daeth Gwyliau'r Pasg i ddwyn amser, a chyfnod prysur i ddilyn hynny. Fodd bynnag, dyma ni nôl gyda dwy raglen newydd ar eich cyfer, a'r ddwy fel mae'n digwydd o Sir Fôn - Eisteddfodau Bodffordd a Llandegfan.

  

Mae Eisteddfod Llandudoch, sy'n digwydd mewn rhyw dair wythnos, wedi sefydlu gwefan newydd - cliciwch yma i gael cip arni.  

  

  

Ebrill 15fed, 2011

  

Mae rhaglen Eisteddfod y Groglith, Dinas Mawddwy bellach ar y safle - diolch am ei hanfon ymlaen.

  

Cystadleuaeth deuawd 2011:  Er i Geraint Hughes orffen fel swyddog datblygu yn ddiweddar, y mae'n parhau i gydlynu cystadleuaeth Deuawd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam. Felly, pan fydd enillwyr yn eich eisteddfod i'r gystadleuaeth hon, a wnewch chi abfon eu henwau ymlaen fel arfer i Geraint, os gwelwch yn dda. 

  

Ebrill 13eg, 2011

  

Derbyniais raglen eisteddfod Castell newydd Emlyn heddiw, a bellach mae wedi cymryd ei lle ar y safle gyda'r lleill.

  

Blin gennym gyhoeddi bod Geraint Hughes wedi gorffen fel Swyddog Datblygu y Gymdeithas. Daw cyfle eto i dalu teyrnged iddo am ei waith clodwiw ar ein rhan dros y blynyddoedd - anodd iawn fydd llanw'r bwlch.

Nid yw Geraint yn medru ymateb i unrhyw ymholiadau na cheisiadau bellach felly os dymunwch gysylltu gyda'r Gymdeithas am ryw reswm gellwch wneud hynny trwy gysylltu gyda'n cadeirydd, Megan Jones (Ei chyfeiriad e-bost yw : This email address is being protected from spam bots, you need Javascript enabled to view it neu rhif ffôn 01970 612768)  neu trwy anfon ebost at This email address is being protected from spam bots, you need Javascript enabled to view it

  

  

Mawrth 31ain, 2011

  

Dyw  hi ddim ond yn ddechrau'r Gwanwyn, ond mae rhaglenni'r Hydref yn dechrau cyrraedd eisoes! Mae rhaglen eisteddfod Llandyfaelog, sydd i'w chynnal ym Mis Tachwedd, bellach ar y wefan.

  

Mawrth 28ain, 2011

  

Ymddiheuriadau am fod yn dawel yn ystod y deg diwrnod diwethaf yma - gwaith yn galw! Ta beth, dyma ni rai rhaglenni newydd a ddaeth i'r fei yn ystod yr wythnos - Eisteddfodau Kerry, Garnswllt a Mynydd y Garreg.

  

Hefyd derbyniais neges oddi wrth  Ffion  Jones eisiau rhoi ychydig sylw i Eisteddfod Llanddeiliolen - dyma fe'r neges yn ei grynswth:

Helo

Eisiau rhoi Esiteddfod Gadeiriol Deiniolen ar y map a gadael i'r byd wybod ei bod yn cael ei chynnal yn Neiniolen ar Hydref 29, 2011.  1 y prynhawn ar gyfer plant hyd at 12 - ond wedi ei chyfyngu i blant Deiniolen yn unig ac eisteddfod yr hwyr i gychwyn am 6pm, testunau agored.  Testunau i ddilyn, fel arfer ym mis Mai.

Diolch yn fawr

  

Mawrth 17eg, 2011

  

Rhaglen arall wedi dod i'r fei, a chymryd ei lle ar y wefan - Eisteddfod Llanuwchllyn y tro yma.  

  

Mawrth 15fed, 2011

 Mae'n amlwg eich bod yn hoffi cadw'r gwefeistr yn brysur - rhaglen arall wedi cyrraedd hyeddiw. Mae Llangadog bellach wedi ei gosod gyda'r lleill.

Cafwyd neges oddi wrth sywddogion Eisteddfod y Ffôr i ddweud bod newidiadau mewn beirinaid ar gyfer eu heisteddfod nhw.Gan nad yw Angharad Llwyd yn medru dod, y rhai fydd yn cymryd ei lle fydd :

Adrodd  -  Llinos Mary Jones, Gwyddelwern.
Cerdd Dant  -  Bethan Antur, Llanuwchllyn.
  

Mawrth 14eg, 2011

  

Mae'r rhaglenni'n dal i ddod i fewn yn eu tro - mae rhaglen Eisteddfod Capel y Groes wedi cyrraedd, a bellach wedi cymryd ei lle ar y wefan.  

  

Mawrth 9fed, 2011

  

Mae'n dda gen i ddweud bod y problemau gyda'r dudalen 'Dogfennau' bellach wedi eu datrys, a'ch bod bellach yn medru agor y rhaglenni eisteddfod unwaith eto. Diolch i Clive yn telematic am ei waith.

Mae'r rhestr ddiweddar o ddyddiadau eisteddfodau yn ymestyn o Mawrth 2011 hyd at ddiwedd Awst 2011 bellach wedi ei gosod ym mhlith y dogfennau - mae dyddiadau, lleoliad, a manylion cyswllt pob eisteddfod yno ar eich cyfer.

  

Mawrth 5ed,2011

  

Mae'n flin iawn gennym, ond mae problem gyda'r dudalen lle mae'r rhaglenni'n cael eu storio ar hyn o bryd. Mae rhyw ddihyryn diegwyddor wedi hacio'r system ac yn ein rhwystro rhag ei defnyddio.  Mae'r rhai sy'n gyfrfol am y wefan wrthi ar hyn o bryd yn ceisio datrys y broblem, gan obeithio na fydd hynny'n cymryd yn hir.

  

Diolch i chi am eich amynedd, ac ymddiheuriadau mawr unwaith eto.  

  

Chwefror 11eg, 2011

  

Rhaglen Penrhyncoch wedi cyrraedd y wefan heddiw. Da gweld bod nifer o dda o bobl yn ymweld â'r safle, ac yn darllen y rhaglenni - mae'n ymddangos bod yna gynnydd cyson. Diolch am eich cefnogaeth - a chofiwch y gallwn ni helpu eich steddfod chithau, dim ond i chi anfon eich rhaglen atom.  

  

Ionawr 28ain, 2011

  

Dwy rhaglen newydd i'r wefan heddiw - Eisteddfod Capel y Fadfa, Talgarreg ac Eisteddfod y Groeslon.  

  

Ionawr 10fed, 2011

  

EISTEDDFOD ABERGORLECH  -

  

Mae'n debyg bod peth dryswch ynglŷn â dyddiad newydd yr eisteddfod yn Abergorlech. NID YW'R EISTEDDFOD YN DIGWYDD DDYDD SADWRN NESAF (Ionawr 15fed). Bydd y pwyllgor yn cyfarfod yn fuan i ail-drefnu'r dyddiad, ac fe fydd y dyddiad newydd yn cael ei hysbysu ar y wefan yma.  

  

Ionawr 4ydd, 2011

  

Mae'r rhaglenni'n dod yn drwch y dyddiau hyn - mae rhaglen Eisteddfod Swyddffynnon bellach wedi cyrraedd y wefan.

  

Cofiwch - dyw'r calendar yn dal ddim yn gweithio ar y wefan yma, ond mae rhestr o'r Eisteddfodau a'u dyddiadau i'w weld yn adran 'Dogfennau' y wefan, o dan y penawd 'Dyddiadau Eisteddfodau'. Os oes unrhyw gwestiwn, cysylltwch trwy anfon neges o'r tudalen 'Cysylltu â Ni' (gweler y fwydlen ar y chwith).

  

  

  

Ionawr 3ydd, 2011

  

Mae rhaglen eisteddfodau Pontrhydfendigaid, Rhydlewis a Llandudoch bellach wedi cyrraedd y wefan, mewn da bryd i chi bori trwyddynt a pharatoi at gystadlu.  

  

IONAWR 1af, 2011

  

Roeddwn wedi bod yn pendroni pa raglen fyddai'r cyntaf i gyrraedd ein gwefan yn 2011. Eisteddfod Bryngwran oedd hi eleni - a honno'n cyrraedd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn. Edrychaf ymlaen at dderby rhagor yn fuan iawn - pob dymuniad da i'r flwyddyn newydd i eisteddfodwyr ym mhobman, yn gystadleuwyr a threfnwyr .

  

RHAGFYR 22ain, 2010

Ar ran swyddogion a phwyllgor Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, NADOLIG LLAWEN A BLWYDDYN NEWYDD DDA i bob un ohonoch sy'n gwneud defnydd o'r wefan yma. Edrychwn ymlaen at gyhoeddi a darparu eich rhaglenni, ac unrhyw wybodaeth arall, eto yn y flwyddyn sydd i ddod.

  

  

Rhagfyr 13eg, 2011

  

Mae rhaglen Eisteddfod Gadeiriol y Ffor bellach wedi dod i law ac wedi cael ei lle gyda'r rhaglenni eraill. Diolch am ei hanfon atom.  

  

  

*************GOHIRIO EISTEDDFOD ABERGORLECH ETO**********

  

Gan nad yw'r tywydd wedi gwella fawr ddim, bu'n rhaid gohirio Eisteddfod Abergorlech eto - felly ni fydd yn digwydd Ddydd Sadwrn. Nid oes dyddiad newydd wedi ei awgrymu hyd yma, ond fe gewch wybod cyn gynted ag y daw unrhyw wybodaeth i law.  

  

******DYDDIAD NEWYDD I EISTEDDFOD ABERGORLECH******

Yn dilyn gorfod gohirio'r esiteddfod oherwydd y tywydd gwael, bydd EISTEDDFOD ABERGORLECH yn digwydd nawr ar DDYDD SADWRN, RHAGFYR 11eg.  

Tachwedd 29ain, 2010

Mae pwyllgor Maenclochog yn gweithio'n gyflym eleni - mae gwybodaeth am ei heisteddfod, sydd i'w chynnal ym Mis Mai, wedi cyrraedd y wefan yn barod.  

Tachwedd 26ain, 2010

  

NEWYDDION PWYSIG!!  

  

Oherwydd y tywydd garw, bu raid i bwyllgor yr eisteddfod ohirio EISTEDDFOD ABERGORLECH  a oedd i'w chynnal yfory (Dydd Sadwrn, Tachwedd 27ain). Gobaith y trefnwyr y y caiiff yr eisteddfod ei chynnal ar Ionawr 15fed, 2011 - ond mae'r dyddiad hwnnw i'w gadarnhau.

  

Cadwch lygad yma er mwyn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf.  

  

Tachwedd 14, 2010

  

Wedi bod yn cymoni tipyn ar y rhaglenni ar y wefan heddiw. Mae rhaglenni pob eisteddfod sydd wedi ei chynnal bellach wedi eu clirio o'r wefan - daeth un newydd i gymryd ei lle, a bellach rhaglen Eisteddfod Cenarth ar gael i chi. Diolch am ei hanfon i mewn.

  

Tachwedd 12, 2010

  

Un o'r eisteddfodau mwyaf wedi gosod ei rhaglen ar y wefan yn gynnar eleni  - ewch i edrych am restr testunau Gŵyl Fawr Aberteifi ym mhlith y rhaglenni.  

  

Tachwedd 2il, 2010

  

Mae rhaglenni 2011  yn dechrau dod i'r fei. Mae Llanfihangel ar Arth wedi anfon ei rhaglen ataf, ac mae bellach lan ar y safle. Rhowch bip i weld a oes rhywbeth yno at eich dant.

  

Hydref 10fed, 2010

  

Y rhaglen ddiweddaraf i gyrraedd y wefan yw Rhaglen Eisteddfod y Foel 2010 - mae yno ar eich cyfer. Cofiwch - weithiau, mae nifer y rhaglenni yn ymestyn dros ddwy dudalen. Ar waelod dde tudalen y rhaglenni, fe welwch fotwm fydd yn eich symud ymlaen i dudalen dau - jest rhag ofn i chi golli rhaglen!!  

  

Hydref 5ed, 2010

  

Mae wedi bod yn dawel o ran rhaglenni'n ddiweddar, ond mae rhaglen Eisteddfod Abergorlech wedi ymuno gyda'r lleill ar y safle erbyn hyn.

  

Medi 16eg, 2010

  

Rhaglen arall ar gyfer un o eisteddfodau'r Hydref wedi dod i law. Ewch i weld beth sydd gan Eisteddfod Llandyrnog i'w gynnig i chi.  

  

  

Awst 31in, 2010

  

Dyma hi'n ddiwrnod olaf Mis Awst, ac un arall o eisteddfodau'r Hydref wedi anfon ei rhaglen i mewn - Eisteddfod Bro Aled yn Llansannan. Sylwch hefyd bod testunau llenyddol Eisteddfod Llandudoch, Mai 2011 hefyd wedi ymddangos ym mhlith y rhaglenni.  

  

Awst 24, 2010

  

Gan fod y calendr yn parhau i gamfyhafio, rwyf wedi gosod y rhestr dyddiadau ar gyfer eisteddfodau'r hydref a'r flwyddyn newydd fel dogfen unwaith eto'r tro hwn. Os cliwciwch ar 'Dogfennau', fe welwch y ddogfen yno i chi ei darllen.  

  

  

Awst 21, 2010

  

Croeso nôl ar ôl y gwyliau. Braf gweld bod cryn ddarllen wedi bod ar raglenni eisteddfodau ar y safle ers dechrau'r mis - gobeithio y caiff hyn ei adlewyrchu yn nifer y cystadleuwyr yn eich heisteddfodau.

  

Mae un rhaglen newydd ar eich cyfer heddiw - Eisteddfod Treuddyn bellach wedi cyrraedd y wefan.

  

Llongyfarchiadau i'r ddeuawd o Giliau Aeron ar ennill cystadleuaeth Cymdeithas Eisteddfodau Cymru eleni. Da gweld dau gystadleuydd sydd wedi hen arfer troedio llwyfannau eisteddfodau lleol yn dod i'r brig yn y genedlaethol. Pob hwyl a lwc i'r dyfodol i'r ddau.

  

Cifiwch taw deuawd yw'r gystadleuaeth eto'r flwwyddyn nesaf - falle mai chi ddaw i'r brig y tro nesaf! Mae geiriad y gystadleuaeth i'w gweld ym mhlith y rhaglenni eisteddfod o heddiw ymlaen.

  

Gorffennaf 29, 2010

  

Dwy raglen arall wedi cyrraedd y wefan - Eisteddfod Llanarth ac Eisteddfod Bethel Melinycoed.

  Rwy'm mynd am yr eisteddfod genedlaethol yfory, ac yna'n cymryd pythefnos o wyliau - felly fydda i ddim yn medru gosod dim byd ar y wefan am ryw dair wythnos i fis. Cofiwch anfon rhaglenni, er hynny, ac mi gânt eu rhoi ar y wefan i'r byd a'i fam gael eu darllen cyn gynted ag y bydda i nôl.  

  

  

Gorffenaf 19eg, 2010

  

Dwy arall o raglenni'r  Hydref wedi cyrraedd y wefan - Eisteddfod Gadeiriol  Felinfach ac Eisteddfod Gadeiriol Tregaron, sydd i'w cynnal ym Mis Medi.

Pob lwc i'r cystadleuwyr yng Nghystadleuaeth Cymdeithas Eisteddfodau Cymru yng Nglynebwy ym mhen pythefnos. Dyma nodyn i'ch hatgoffa o'r gystadleuaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf.

  

Cystadleuaeth Deuawd 2011 Cymdeithas Eisteddfodau Cymru.  

Noddwyr : golwg360

Rhwng 12 - 26 oed.

Deuawd o waith cyfansoddwr/wraig Cymreig. 

Gwobrau : Yr eisteddfod leol i benderfynu. 

Bydd ennill mewn dwy eisteddfod leol - a dwy yn unig – rhwng Eisteddfod Genedlaethol 2010 a diwedd Gorffennaf 2011 yn rhoi hawl i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol 2011 am wobrau o £150.00, £100.00 a £50.00.

  

  

  

Gorffennaf 5ed,2010

  

Gan nad yw'r calendr yn gweithio'n arbennig o dda o hyd, a hytrach yn anodd i'w ddarllen, mae rhestr o eisteddfodau'r misoedd nesaf wedi ei chynnwys yn 'Dogfennau'. O agor y ddogfen, fe welwch gopi o dudalen gefn 'Steddfota' sy'n cynnwys yr holl esiteddfodau dros y misoedd nesaf. Pan ddaw'r rhifyn nesaf o 'Steddfota' i'r fei, fe wnawn yr un peth unwaith eto - mae'n haws a chyflymach i'w ddarllen na'r calendr, beth bynnag!

  

  

  

Mehefin 14eg

  

Mae rhaglen eisteddfod gyntaf yr hydref wedi ein cyrraedd! Ar ôl ychydig o drafferth, mae rhestr destunau a rhaglen Eisteddfod y Tymbl bellach ar y safle.  

  

Mai 27ain, 2010

  

Mae rhaglen Eisteddfod yr Hen Gapel ,Llanbrynmair, sydd i'w chynnal ym Mis Gorffennaf,  wedi cyrraedd y wefan.

Dymuniadau gorau i holl blant a ieuencyid Cymru sydd yn cystadlu neu'n cymryd rhan mewn rhyw ffordd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yr wythnos nesaf. Gobeithio bydd yr haul, a'r beirniaid, yn gwenu arnoch chi!

  

Mai 17eg, 2010

  

Mae rhaglenni eisteddfodau'r hydref yn dechrau cyrraedd - mae Rhestr Testunau Eisteddfod y Cymoedd wedi ei gosod ar y safle heddiw.

  

Cofiwch alw i mewn ar safle gwe Golwg360 i weld canlyniadu eisteddfodau Cymru wrth iddynt ddigwydd.  

  

  

Mai 4ydd, 2010  

  

Neges i ysgrifenyddion eisteddfodau lleol Cymru  

  

Y mae modd i chi adael copiau o raglenni eich heisteddfod ar gownter ym mhrif fynedfa Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Llanerchaeron ddiwedd Mis Mai. Os na fyddwch yn mynd yno eich hunan, mae croeso i chi anfon bwndel at ein swyddog datblygu Geraint Hughes (Caeralaw, 11 Maes Brynglas, Peniel, Caerfyrddin, SA32 7HF) ac fe fydd yntau'n hapus i sicrhau y byddant yn cyrraedd pen eu taith. 

  

  

Ebrill 30ain

Rhaglen Eisteddfod Dyffryn Elwy sydd i'w chynnal ym Mis Mehefin wedi ei llwytho i'r wefan heddiw.  

  

Ebrill 29in

Rhaglen Castell Newydd Emlyn bellach ar y we.

Gan nad yw'r calendr yn gweithio'n arbennig o dda o hyd, a hytrach yn anodd i'w ddarllen, mae rhestr o eisteddfodau'r misoedd nesaf wedi ei chynnwys yn 'Dogfennau'. O agor y ddogfen, fe welwch gopi o dudalen gefn 'Steddfota' sy'n cynnwys yr holl esiteddfodau dros y misoedd nesaf.

  

Ebrill 13eg

Yr eisteddfod ddiweddaraf i osod ei rhaglen ar y wefan yw Eisteddfod Llanrwst - ewch i weld beth sydd ganni i'w gynnig i chi.

Mae rhifyn y Gwanwyn o Steddfota bellach wedi ei gyhoeddi. Os nad ydych wedi derbyn eich copi eto, chwiliwch amdano i chi ddarllen y newyddion diweddaraf am hanes y Gymdeithas. 

  

Mawrth 24in, 2010

Neges bwysig!!Neges bwysig!!Neges bwysig!

Cofiwch bod Eisteddfod Rhydaman i'w chynnal y Dydd Sadwrn yma, Mawrth 26ain. Cafodd yr eisteddfod, yr un gyntaf yn Rhydaman ers y 70au, ei gohirio ym Mis Ionawr oherwydd y tywydd gwael. Mae'r adran leol yn dechre am 10.00. o'r gloch a'r agored am 2.00. o'r gloch. Y beirniaid yw Eric Jones- Cerdd a Dyfrig Davies - Llefaru. Gwobrau da iawn! Yr ysgrifennydd yw Miriam Phillips. Rhifau cyswllt : 01269850870 neu 07818411702 am wybodaeth pellach.

Pob dymuniad da i'r Eisteddfod!

  

Mawrth 19eg, 2010

Mae'n gyfnod prysur cyhoeddi rhaglenni eisteddfodau ar hyn o bryd. Mae Rhaglenni Eisteddfodau Llandegfan a Llandyfaelog wedi cyrraedd y safle, ac un eisteddfod ddiddorol iawn yn ardal Wrecsam, sef Eisteddfod y Dysgwyr. Bellach mae 21 o raglenni i'w gweld ar y safle.

  

  Mawrth 15fed, 2010

Dwy raglen o eitseddfodau Ceredigion wedi cyrraedd y wefan erbyn hyn - Eisteddfod Talgarreg ac Eisteddfod Bryngwenith. Rhowch gip arnynt i weld a oes rhywbeth at eich dant yno.  

  

  

Chwefror 10fed

  

Cyrhaeddodd Rhaglen Eisteddfod Gadeiriol Llanuwchllyn a bellach mae wedi cael ei lle ym mhlith y rhaglenni eraill ar y wefan.

  

 Eisteddfod Newydd

Braf yw gweld bod eisteddfod newydd sbon ar fin digwydd yn Nhyddewi Sir Benfro, a hynny yn yr Eglwys Gadeiriol. Mawrth 2il, 2010 yw'r dyddiad - mor agos at Ddydd Gwyl Dewi ag y gellir bod. Pob llwyddiant i'r fenter newydd hon - gobeithio y daw i fod yn achlysur blynyddol llwyddiannus iawn.

  

  

Chwefror 2il : Ymddiheuriad

Ymddiheuriadau yn y lle cyntaf am y camgymgymeriad yrw wythnos diwethaf - canlyniadau Eisteddfod Chwilog osodwyd ar wefan golwg360, nid y Groeslon. Ac rwy'n deall hefyd nad oedd y cyswllt i wefan golwg360 yn gweithio. Rwy'n gobeithio'n fawr bod hynny wedi ei gywiro nawr. Mae'n braf gweld bod canlyniadau eisteddfod Cenarth wedi cyrraeff safle Golwg hefyd, a gobaith Owain Schiavone, sy'n trefnu'r wefan, yw y bydd gweddill eistddfodau Cymru'n ymuno â nhw gyda hyn. Cadwch lygad arni felly.

  

  

  

Chwefror 1af, 2010

Mae rhaglen Eisteddfod Penrhyncoch, sydd i'w chynnal ddiwedd Ebrill, bellach wedi ei gosod ar y wefan.

29/1/10

Mae testunau llenyddol Eisteddfod Gadeiriol Maenclochog bellach wedi cyrraedd y safle hefyd.  

  Os ewch chi ar wefan Golwg 360 fe gewch adroddiad a chanlyniadau Eisteddfod Chwilog. Mae'r cyfan yno'n glir a thaclus - gobeithio y bydd eisteddfodau eraill yn dilyn esiampl y Groeslon yn hyn o beth, fel y gall pawb weld beth sy'n deillio o'n gweithgarwch fel eisteddfodau.

28/1/10

Mae pedair rhaglen aral wedi eu gosod ar y wefan erbyn hyn - Llangadog, Gŵyl Fawr Aberteifi, Y Groeslon a'r Ffôr.

Mae hyn yn golygu bod pymtheg o raglenni ar y safle ar hyn o bryd - digon i bori ynddyn nhw felly. Cofiwch, pan fydd mwy na 12 o raglenni, mae'r rhestr yn ymestyn dros ddwy dudalen. Ar y dde ar waelod y dudalen gyntaf, fe welwch rhifau'r tudalennau - cliwciwch ar '2' i symud ymlaen i'r dudalen nesaf.
 Golwg 360 yn cynnig gwasanaeth i eisteddfodau
Mae gwasanaeth newyddion ar-lein Golwg 360 wedi lansio prosiect a fydd yn hybu eisteddfodau lleol Cymru, trwy gynnig man canolog ar y we ar gyfer yr holl ganlyniadau.Yn ogystal a hyn, bydd y wefan newyddion yn rhoi sylw arbennig i newyddion yr eisteddfodau yn eu hadran Celfyddydau, gan gynnwys lluniau ac adroddiadau o nifer o’r digwyddiadau. Ac os nad ydy hynny’n ddigon, bydd cyfle arbennig i’r eisteddfodau greu gwefan syml eu hunain yn rhad ac am ddim fel rhan o wasanaeth Lle Pawb y safle. Dywedodd Prif Weithredwr Golwg 360, Owain Schiavone, ”mae’r eisteddfodau lleol yn rhan canolog o ddiwylliant a bywyd celfyddydol Cymru. Fan hyn mae’r mwyafrif o’n perfformwyr llwyddiannus yn ennill eu profiad cyntaf ar lwyfan, ac maent hefyd yn ddigwyddiadau cymunedol pwysig. Ychydig iawn o wybodaeth am yr eisteddfodau sydd i’w ganfod ar y we, a’r bwriad yw i sicrhau fod yr holl ganlyniadau i’w canfod mewn un man canolog fel rhan o’n hadran Celfyddydau.”Bydd modd i’r eisteddfodau helpu hyrwyddo eu hunain fel rhan o wasanaeth Golwg 360 hefyd, gyda chyfle iddynt greu gwefan eu hunain fel rhan o ddatblygiad unigryw Lle Pawb. Meddai Owain, “mae Lle Pawb yn rhoi cyfle i bob math o grwpiau a chymdeithasau i greu gwefan fach syml dros eu hunain yn rhad ac am ddim! Mae wedi dod i’r amlwg mae ychydig iawn o eisteddfodau sydd â gwefannau, felly dyma gyfle gwych a rhwydd iddynt gael presenoldeb ar y we.”Mae’r prosiect yn dechrau ar ddydd Sadwrn 23 Ionawr gyda eisteddfod Gadeiriol Chwilog, ac eisteddfod newydd sbon Rhydaman. Bydd canlyniadau’r eisteddfodau hyn, a eisteddfodau lleol eraill Cymru i’w canfod ar www.golwg360.com. Am ragor o wybodaeth ynglŷn a Golwg 360 neu Lle Pawb, cysylltwch â Owain Schiavone ar 01570 423529 neu This email address is being protected from spam bots, you need Javascript enabled to view it  

  

  

  

  

  

Cofiwch bod modd i chi anfon adroddiadau, cyfansoddiadau a lluniau ymlaen i'w cyhoeddi ar y wefan yma, a gosod eich rhaglenni ar y safle fel bod modd i bawb eu gweld a'u lawrlwytho.

Mae'n bosibl hefyd i chi gael cyfeiriad ebost ar gyfer eich eisteddfod - fel y gall cystadleuwyr gysylltu'n gyflym gyda chi, a galluogi beirdd a llenorion i anfon eu cynnyrch trwy gyfrwng y dechnoleg ddiweddaraf.Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth ar sut i wneud hyn.

Yn olaf, croesawn syniadau ar gyfer eu cynnwys ar y safle - chi piau hi, gwnewch yn fawr ohoni!

  


 

gwefan Cronfa Dreftadaeth y Loteri

 

Digwyddiadau

« < Chwefror 2012 > »
Ll M M I G S S
30 31 1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 1 2 3 4